Ynghylch y Comisiynydd
Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru – Rhian Bowen-Davies – yw llais annibynnol ac eiriolwr dros bobl hŷn, gan sefyll dros eu hawliau a siarad ar eu rhan, a sicrhau bod eu hawliau'n cael eu diogelu.
Mae gwaith y Comisiynydd yn canolbwyntio ar sicrhau bod pobl hŷn:
- Yn gallu cael gafael ar y gwasanaethau a'r cymorth sydd eu hangen arnynt
- Yn teimlo'n ddiogel yn eu cartrefi, eu perthnasoedd a'u cymunedau
- Yn cael eu trin yn deg, gyda'u cyfraniad yn cael ei gydnabod a'i werthfawrogi
- Yn gallu lleisio eu barn a bod ganddynt ddewis a rheolaeth dros eu bywydau
Mae gwaith y Comisiynydd yn cael ei gefnogi gan set unigryw o bwerau cyfreithiol, sy'n ei galluogi i graffu ar weithredoedd a phenderfyniadau cyrff cyhoeddus allweddol, megis Llywodraeth Cymru, byrddau iechyd ac awdurdodau lleol, a'u dwyn i gyfrif er mwyn ysgogi newid cadarnhaol i bobl hŷn.
Mae'r Comisiynydd hefyd yn darparu gwybodaeth a chymorth i gannoedd o bobl hŷn bob blwyddyn drwy ei gwasanaeth Cyngor a Chymorth, y gallwch gysylltu ag ef drwy'r ddolen ar y sgrin HAFAN.